P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Morgans, ar ôl casglu cyfanswm o 5,330 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

COVID-19 – yn ôl y rheolau /deddfwriaeth bresennol, dim ond 30 o bobl a ganiateir mewn man awyr agored! Ar gyfer gêm bêl-droed, mae angen 11 yn erbyn 11 ynghyd â swyddogion a staff... felly mae'n amhosibl ailddechrau’r cynghreiriau cystadleuol i oedolion tan fod y nifer hon yn cael ei chynyddu! Gellir cynnal gemau yn ddiogel ac yn effeithiol pe bai'r nifer yn cynyddu i 30 o bobl heb gynnwys y chwaraewyr a'r swyddogion ar y cae. Gofynnwn i chi gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac ystyried cynyddu’r niferoedd fel y gall Haen 2 ac is ailddechrau chwarae.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Noder bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr / Cymdeithas Bêl-droed yr Alban a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon fwy neu lai wedi ailddechrau eu cynghreiriau pêl-droed lleol a chenedlaethol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Rhondda

·         Canol De Cymru